Mae amrywiaeth yn bwysig yn y BBC. Mae gennym amgylchedd gwaith lle rydyn ni’n gwerthfawrogi ac yn parchu cyfraniad unigryw pob unigolyn, gan alluogi pob un o’n gweithwyr i ffynnu a chyflawni eu potensial yn llawn.
Rydyn ni eisiau denu’r ystod ehangaf o bobl dalentog i fod yn rhan o’r BBC – boed hynny i gyfrannu i’n rhaglenni neu i’n hystod eang o swyddi nad ydynt yn ymwneud â chynhyrchu. Po fwyaf amrywiol yw ein gweithlu, y mwyaf y bydd modd i ni ymateb i’n cynulleidfaoedd a’u hadlewyrchu yn eu holl amrywiaeth.
Rydyn ni wedi ymrwymo i gyfle cyfartal ac yn croesawu ceisiadau gan unigolion, beth bynnag fo’u hoedran, rhywedd, ethnigrwydd, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, cefndir economaidd-gymdeithasol, crefydd a/neu gred.
I gael rhagor o wybodaeth am Amrywiaeth a Chynhwysiant yn y BBC, cliciwch yma.
Cymorth gyda’ch cais
Ein huchelgais ni yw bod y BBC i bawb ac y dylai gynnwys pawb. Rydyn ni’n falch o fod yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd Lefel 2, ac rydyn ni wedi ymrwymo i gael gwared ar rwystrau sy’n gysylltiedig ag anabledd.
Rydyn ni’n cymryd cynhwysiant o ddifrif ac rydyn ni am sicrhau bod pob ymgeisydd sydd ag anabledd neu sydd â chyflyrau iechyd tymor hir yn cael y cymorth a’r addasiadau sydd eu hangen arnynt. Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch chi ar gyfer y broses, neu os oes gennych chi anghenion mynediad yr hoffech chi roi gwybod i ni amdanynt, cysylltwch â ni yma gan roi cyfeirnod y swydd yn y maes pwnc. Byddem yn fwy na pharod i gael sgwrs gyfrinachol i drafod sut gallwn ni eich cefnogi chi drwy’r broses. ID y cais i lenwi’r rôl hon yw 20383.